Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 26 Mehefin 2017
Amser: 14.00 -
16.49
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4113
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC Mike Hedges AC (yn lle Vikki Howells AC) |
Tystion: |
James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru Tracey Mayes, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Alistair McQuaid Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Yn dilyn newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor ar 21 Mehefin, croesawodd y Cadeirydd Vikki Howells i'r Pwyllgor a diolchodd i Mike Hedges am ei waith. Fodd bynnag, roedd Mike Hedges yn dirprwyo ar ran Vikki Howells heddiw.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w hysbysu am y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor, gan ei bod yn bosibl y bydd y Pwyllgor plant yn dymuno gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn ystod y sesiynau a drefnwyd i graffu ar waith y Gweinidog.
2.3 Gofynnodd Mike Hedges AC i'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ynghylch y sefyllfa o ran gweithgynhyrchu uwch mewn perthynas â chwmni Kancoat.
3.1 Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad agoriadol ynghylch yr ohebiaeth ddiweddar rhwng Llywodraeth Cymru ac ef ei hun.
3.2 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda James Price, dirprwy ysgrifennydd parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru; a Tracey Mayes, pennaeth llywodraethu a chydymffurfio Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru, ar y cyllid cychwynnol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru.
3.3 Cytunodd James Price i gymryd y camau a ganlyn:
· Ysgrifennu at y Pwyllgor gyda manylion ynghylch cyfanswm y gwariant a gafwyd hyd yn hyn a'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu;
· Anfon y canllawiau mewnol y mae swyddogion yn glynu wrthynt pan fyddant yn asesu ceisiadau grant;
· Darparu manylion pellach am y broses diwydrwydd dyladwy a ddilynwyd, yn dilyn penderfyniad y Cabinet ynghylch ariannu prosiect Cylchffordd Cymru; ac
· Ymchwilio i bwy yn Llywodraeth Cymru wnaeth y sylw am 'grandstanding' a gafodd ei gynnwys mewn datganiad i'r wasg, a darparu'r wybodaeth berthnasol i'r Cadeirydd.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, a gwnaethant gytuno y byddai adroddiad yn cael ei baratoi i'r Aelodau ei ystyried.
6.1 Nododd yr Aelodau y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a gwnaethant gytuno ar y llythyr drafft a gaiff ei anfon at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
7.1 Yn sgil cyfyngiadau amser, ni chafodd yr eitem hon ei thrafod. Fodd bynnag, gofynnwyd i'r Aelodau anfon unrhyw sylwadau yn deillio o'u hystyriaeth gychwynnol o adroddiad y Pwyllgor i'r Clercod, a fydd yn aildrefnu'r eitem ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.